Yn y system seneddol, sefyllfa pan nad oes gan yr un blaid fwyafrif dros bawb yw senedd grog ac felly nid yw'n sicr pwy fyddai'n ffurfio'r llywodraeth. Yn y fath sefyllfa, gallai dwy blaid neu fwy, sydd yn meddu ar fwyafrif seneddol drwy gyfuno'u seddau, gytuno i ffurfio llywodraeth glymblaid. Heb glymblaid, gallai pennaeth y wladwriaeth ymofyn i'r blaid fwyaf ffurfio llywodraeth leiafrif.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search